Mae ffotograff a gafodd ei dynnu drannoeth cyhoeddi Tywysog Charles yn Dywysog Cymru ymhlith 70 o luniau sydd wedi’u cyhoeddi i ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed.

Mae’r gyfres yn darlunio pob blwyddyn o’i fywyd, ar drothwy ei ben-blwydd ar Dachwedd 14.

Dechreuodd ar ei addysg yn Ysgol Cheam yn Berkshire yn 1958, ddiwrnod yn unig ar ôl clywed mai fe fyddai’r Tywysog Cymru nesaf – 11 o flynyddoedd cyn cael ei arwisgo yng Nghastell Caernarfon.

Mae’r gyfres hefyd yn cynnwys lluniau ohono’n fabi ym mreichiau ei fam, Brenhines Loegr; yn fachgen tair oed yn siarad â’i dad-cu, y Brenin Siôr VI; yn yr ysgol yn Gordonstoun; yn y lluoedd arfog; yn ei briodas â Diana; lluniau ei feibion William a Harry yn blant gyda’u rhieni; a llun ohono ym mhriodas Harry a Meghan Markle eleni.