Fe fydd £3m yn cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod staff y Gwasanaeth Iechyd a chleifion yn cael gwell mynediad at dechnoleg.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, mae’r arian yn rhan o raglen tair blynedd newydd, gyda’r bwriad o wella sgiliau technoleg staff a chleifion.

Bydd hefyd yn eu helpu i fynd ar-lein a rheoli eu gwybodaeth feddygol, meddai.

Yn ôl ystadegau ar gyfer y llynedd, doedd 60% o bobol dros 75 oed yng Nghymru, a 26% o bobol anabl, ddim yn defnyddio technoleg ddigidol.

Mae’n “hanfodol” gwella gallu’r bobol hyn i ddefnyddio gwasanaethau digidol, meddai Vaughan Gething.

“Drwy gael y sgiliau a’r cymhelliant i ddefnyddio gwasanaethau iechyd digidol, bydd pobol yn gallu rheoli eu cyflyrau iechyd yn fwy effeithiol, a bydd hynny ar yr un pryd yn lleihau’r pwysau mawr sydd ar wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd.”