Fe fydd aelodau chwech o fudiadau heddwch yn cynnal gwylnos y tu allan i faes awyr Y Fali ym Môn nos yfory (dydd Mercher, Tachwedd 7), wedi i’r newyddion dorri fod peilotiaid rhyfel Sawdi Arabia yn cael eu hyfforddi yno cyn mynd i Yemen.

Ymhlith yr hyn maen nhw’n ei alw amdano yw i Lywodraeth Cymru gondemnio’r arfer o hyfforddi peilotiaid o Sawdi Arabia, gan ddylanwadu ar Lywodraeth Prydain i “roi’r gorau i ddefnyddio tir ac awyr Cymru i’r diben o baratoi at ladd trigolion Yemen.”

Maen nhw hefyd yn galw ar Lywodraeth Prydain i “ddileu’r cytundeb arfau a hyfforddi gyda Sawdi Arabia ar unwaith.”

Mae’r chwe mudiad yn cynnwys Grŵp Heddwch a Chyfiawnder Bangor ac Ynys Môn, Cymdeithas y Cymod, Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion (Crynwyr), Grŵp Heddwch Sir Conwy, CND Cymru a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Siom”

“A siom a thristwch enfawr cawsom wybod yn ddiweddar fo peilotiaid o Saudi Arabia yn cael eu hyfforddi yn RAF Valley,” meddai Anna Jane Evans o Gymdeithas y Cymod.

“Mae Llywodraeth San Steffan yn gwerthu arfau rhyfel gwerth miliynau lawer i’r wladwriaeth ormesol yn Sawdi Arabia, a rhan o’r cytundeb yw hyfforddi peilotiaid sut i’w defnyddio.

“Gadewch i ni fod yn hollol eglur – mae hyn yn arwain yn uniongyrchol at ladd plant a phobol ddiniwed sydd â dim oll i’w wneud â’r rhyfel yn Yemen.

“Sut y gall Llywodraeth San Steffan ddweud eu bod am goffáu canrif ers diwedd y Rhyfel Mawr – y Rhyfel oedd i fod i roi terfyn ar bob Rhyfel – tra’n hybu lladd, dioddefaint a Rhyfela yn Yemen?” meddai wedyn.

Bydd yr wylnos yn cychwyn am 5:30yh y tu allan i brif gatiau’r maes awyr.