Mae’r pleidleisio ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru wedi agor heddiw (dydd Llun, Tachwedd 5).

Mae pobol ifanc ledled Cymru yn cael eu hannog  i fwrw eu pleidlais ar gyfer y senedd a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr rhwng 11 a 18 oed.

Bydd 480 o ymgeiswyr yn cystadlu am 40 o seddi etholaethol ledled Cymru – gyda 20 sedd arall yn cael eu dewis gan wahanol sefydliadau ieuenctid.

“Blynyddoedd o gynllunio”

Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi’i sefydlu gan y Cynulliad, ar ôl i’r senedd ieuenctid flaenorol – Funky Dragon – ddod i ben yn 2014.

“Rwy’n falch iawn ein bod o’r diwedd yn gallu agor y pleidleisio ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru,” meddai Llywydd y Cynulliad, Elin Jones.

“Mae hyn yn digwydd ar ôl blynyddoedd o gynllunio ac ymgynghori â thros 5,000 o bobol ifanc ledled Cymru, ac mae’n rhan o sut y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys y genhedlaeth nesaf yn ein gwaith.”

Pleidleisio

Bydd pob aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn dal ei sedd am gyfnod o ddwy flynedd, ac mae gofyn i bob ymgeisydd yn yr etholiad fod yn ddi-bleidiol.

Mae modd pleidleisio trwy gyfrwng dyfais electronig – y tro cyntaf i ddull pleidleisio o’r fath gael ei ddefnyddio yng ngwledydd Prydain.

Mae digwyddiadau’n cael eu cynnal mewn ysgolion ledled Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r etholiad.

Mae gan bobol ifanc tan Dachwedd 16 i gofrestru, cyn y bydd y pleidleisio’n dod i ben ar Dachwedd 25.