Stadiwm Swalec
Mae croeso i Gymru gael ei dim criced ei hun – ond ni fyddai Stadiwm Swalec yn cynnal unrhyw gemau o bwys yn y dyfodol agos.

Dyna fygythiad David Collier, prif weithredwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, mewn llythyr at yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards.

Roedd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi ysgrifennu at y bwrdd gan ddweud y dylai Cymru gael ei thîm ei hun, yn yr un modd ag Iwerddon a’r Alban.

“Er mwyn gallu cystadlu mewn cystadlaethau criced rhyngwladol, byddai yn rhaid i Gymru wneud cais i’r Cyngor Criced Rhyngwladol,” meddai David Collier wrth ymateb.

“Fe fyddai Cymru yn aelod atodol ac ar ôl amser yn aelod cysylltiol. Dim ond aelodau o’r Cyngor Criced Rhyngwladol sy’n cael cymryd rhan mewn cystadlaethau rhyngwladol.

“Ni fyddai Lloegr yn cael chwarae gemau criced yng Nghymru ac felly fe fyddai Stadiwm Swalec yn cynnal gemau Cymru yn erbyn gwledydd amrywiol gan gynnwys Papua Guinea Newydd, yr Almaen, Nepal a Namibia.

“Rydw i’n ymwybodol fod Clwb Criced Morgannwg yn awyddus iawn i barhau yn aelod o Fwrdd Criced Lloegr a pharhau i gynnal gemau Lloegr yn erbyn gwledydd blaenllaw yn Stadiwm Swalec.”

Ddoe cyhoeddwyd y bydd Stadiwm Swalec yn cynnal un o gemau Cyfres y Lludw yn 2015.

‘Nawddoglyd’

Dywedodd Jonathan Edwards wrth bapur newydd y Western Mail fod llythyr David Collier yn “nawddoglyd” a “thrahaus”.

“Mae’n un o’r bobol bwysicaf ym myd criced ac roeddwn i wedi synnu ei fod mor barod i wfftio gwledydd sy’n datblygu eu criced ar hyn o bryd,” meddai.

“Mae’n bryd cydnabod fod Bwrdd Criced Lloegr yn cynrychioli dwy wlad ac fe ddylai allu cyflwyno timoedd Cymru a Lloegr.

“Fe fyddai cystadlu yn hwb i griced yn ein gwlad ac yn hwb economaidd hefyd. Fe fyddai gêm yn erbyn India er enghraifft yn cael ei wylio gan dros biliwn o bobol yn un o economïau pwysicaf y byd.”