Mae ymgyrchwyr iaith yng Ngwynedd yn flin nad yw datblygwyr pentref gwyliau ar gyrion Bangor yn gorfod trefnu asesiad o effaith cynllun o’r fath ar y Gymraeg.

Wrth alw ar gynghorwyr Gwynedd i wrthod cais i ddatblygu 40 uned yng Nghoed Wern Tŷ Gwyn, Glasinfryn, dywed Pwyllgor Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn fod y sefyllfa’n gwbl annerbyniol.

“Yn ystod y ddadl yn y cyngor sir cyn mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol, cafwyd addewidion y byddai amodau cadarnach yn cael eu llunio er mwyn gwarchod y Gymraeg yn gymunedol,” meddai Ieuan Wyn ar ran yr ymgyrchwyr.

“Mae’n achos gresyndod a siom fod y sefyllfa’n parhau fel ag yr oedd.”

Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae’r Datganiad Cynllunio ar ran y datblygwr yn yr achos yma yn cydnabod y byddai’r datblygiad yn cael “effaith negyddol fechan” ar sefyllfa’r Gymraeg yn y gymuned.

Yn ôl Ieuan Wyn, mae cyfaddefiad o’r fath yn ddigon o reswm ynddo’i hun dros wrthod y cais cynllunio.

“Mae polisїau’r cyngor sir yn datgan yn glir fod gwarchod y Gymraeg a diogelu cymeriad cymunedau yn egwyddor sylfaenol sy’n cael ei hystyried yn un o hanfodion y Cynllun Datblygu Lleol,” meddai.

“Byddai cefnogi’r cais cynllunio yn gwneud yr ymrwymiad a’r polisїau i warchod y Gymraeg ym maes cynllunio yn gyff gwawd a thrwy hynny yn tanseilio hygrededd y cyngor sir.”