Mae archwiliadau post-mortem ar gyrff glowyr Gleision wedi dangos eu bod nhw wedi marw o ganlyniad i lifogydd o fewn y lofa.

Mae archwiliad post-mortem manylach ar bob dyn yn debygol o gymryd tua wyth i 12 wythnos arall.

Cafodd Phillip Hill, 45, Garry Jenkins, 39, David Powell, 50, a Charles Breslin, 62, eu lladd wrth i Lofa Gleision ger Pontardawe lenwi â dŵr.

Brwydrodd achubwyr drwy’r nos a’r diwrnod wedyn yn y gobaith fod y dynion wedi goroesi’r trychineb ar 15 Medi.

Cafodd canlyniadau’r post-mortem eu rhyddhau wythnos union ar ôl y cyhoeddiad ddydd Gwener yr wythnos ganlynol fod y pedwar dyn wedi marw.

Bydd yr ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd yn parhau ar safle’r glofa yng Nghwm Tawe am o leiaf pythefnos arall.

Mae Heddlu De Cymru a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i’r trychineb.

“Mae archwiliadau post-mortem wedi eu cynnal ac wedi cadarnhau fod y pedwar dyn wedi eu lladd gan gynnwys pwll dan ddŵr o dan bwysau,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Bydd gwybodaeth benodol ar gyfer pob dioddefwr yn hysbys ar ôl ymchwiliadau pellach sy’n debygol o gymryd tua wyth i 12 wythnos.”

Ychwanegodd y bydd cwest i’r marwolaethau yn cael ei agor ddydd Mawrth.

Mae teuluoedd y rheini fu farw yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion heddlu arbenigol.

Mae cronfa ariannol er mwyn helpu’r teuluoedd eisoes wedi cyrraedd £150,000.