Mae dyn a laddodd ei wraig a’i chladdu mewn bedd fas, wedi derbyn dedfryd o 25 mlynedd dan glo.
Aeth Christopher Llewellyn Kerrell, 35, ati i ladd Hollie Kerrell, 28, trwy ei tharo ar ei phen â morthwyl, ac yna ei chrogi. Wedi hynny, mi gladdodd ei chorff ar fferm ei fam.
Digwyddodd y llofruddiaeth yn nhŷ’r wraig tra bod plant y cwpwl yno, ac roedd y plant yn y car gydag ef pan aeth i gladdu’r corff hefyd.
Yn dilyn y llofruddio ar Ebrill 22, mi yfodd Christopher Llewellyn Kerrell baned o de wrth lanhau’r gwaed, ac mi baratôdd ginio i’w blant.
Er i’r cwpwl briodi yn 2013, roedd Hollie Kerrell wedi gwahanu oddi wrth ei gŵr ychydig cyn y llofruddiaeth, ac roedd hi wedi dechrau perthynas â dyn arall.
Pum diwrnod wedi’r farwolaeth, fe gyfaddefodd Christopher Llewellyn Kerrell iddo ei llofruddio.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 2).