Bydd rhinc sglefrio iâ yn cael ei osod yng Nghastell Caerffili am y tro cyntaf erioed yn ddiweddarach y mis yma.

Ac yn ôl Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, mae yn ffordd “newydd a chyffrous o helpu i gynnwys pobl yn nhreftadaeth gyfoethog Cymru ac edrychwn ymlaen at weld pobl o bob oed yn mwynhau’r castell mawreddog hwn cyn y Nadolig”.

Bydd groto Siôn Corn yn y castell ar ail benwythnos mis Rhagfyr hefyd.

CADW – corff y Llywodraeth ar gyfer gwarchod hen adeiladau gwerthfawr – sy’n gosod y rhinc yn y castell, mewn partneriaeth â Heart FM, Canolfan Siopa Cwrt y Castell, Cyngor Sir Caerffili, Dragon Signs, Cyngor Tref Caerffili, Rygbi’r Dreigiau a Chanolfan Iâ Cymru/ Cardiff Devils.