Mae Eluned Morgan, un o’r tri ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur, wedi cadarnhau y byddai’n rhoi’r gorau i fod yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi pe bai hi’n cael ei hethol i olynu Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru.

Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi bod yn Farwnes Morgan o Drelái ers 2011, wedi pymtheg mlynedd o fod yn Aelod Senedd Ewropeaidd.

Dywed ei bod yn “falch iawn” o’r hyn y mae hi wedi’i gyflawni yn aelod o’r ail siambr yn San Steffan, sy’n cynnwys cefnogi hawliau priodasau hoyw, sicrhau mwy o bwerau i Gymru ac ymladd Bil yr Undebau Llafur.

Ond ychwanega ei bod yn credu na fydd hi’n addas i barhau â’r teitl os bydd hi’n cael ei wneud yn Brif Weinidog Cymru.

“Rydw i’n ymwybodol bod nifer o bobol yng Nghymru ddim eisiau rhywun â theitl wrth y llyw, ac felly dw i’n barod i roi’r gorau i’m sedd yn yr ail siambr os ydw i’n cael fy ethol yn Brif Weinidog Cymru,” meddai.

Angen diwygio

Mae Eluned Morgan hefyd yn dweud ei bod yn dymuno gweld Tŷ’r Arglwyddi yn cael ei ddiwygio’n “siambr ddemocrataidd” – mater y cynhwysodd Llafur yn eu maniffesto yn 2017.

“Dw i wedi bod yn glir ers ymuno â’r Arglwyddi fy mod i’n dymuno gweld yr ail siambr yn San Steffan yn cael ei newid i fod yn siambr ddemocrataidd sy’n cynrychioli gwledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig – achos y byddai’n parhau i’w ddilyn fel Prif Weinidog Cymru.”

Mae disgwyl canlyniadau’r etholiad ar gyfer dewis arweinydd newydd Llafur Cymru gael eu cyhoeddi ar Ragfyr 6. Y ddau ymgeisydd arall yw Mark Drakeford a Vaughan Gething.