Mae cronfa wedi ei lansio er cof am yr actores Iola Gregory, gan obeithio cefnogi pobol sydd am lwyfannu drama neu greu ffilm fer ddramatig.

Merched Iola Gregory, y cynhyrchydd Angharad Elen a’r actores Rhian Blythe, sydd wrth graidd sefydlu’r gronfa, ynghyd a phwyllgor bychan o unigolion yn cynnwys Siôn Humphreys, Cefin Roberts, Carys Aaron, Sioned Huws a Llŷr Titus.

Fe fydd cefnogaeth ariannol, adnoddau a mentora ar gael trwy’r gronfa bob dwy flynedd, a’r disgwyl ydi y bydd llwyfaniad theatrig neu ddangosiad cyhoeddus o’r gwaith yn digwydd.

Fe weithiodd Iola Gregory ei hun ym myd theatr, ffilm, teledu a radio dros y blynyddoedd, ac roedd hi’n adnabyddus am ei pherfformiadau yn Joni JonesStormydd Awst, Pobol y Cwm a Rownd a Rownd. At hynny, hi oedd un o sylfaenwyr cwmni theatr Bara Caws yn 1977.

“Annog pobol i arbrofi”       

“Bydd y gronfa’n agored i unrhyw un sydd a thân yn eu boliau a chanddyn nhw rywbeth i’w ddweud,” meddai Angharad Elen.

“Mae’r gronfa yn ffordd deilwng o gofio am Mam a oedd yn credu mor danbaid yng ngallu drama i ddweud rhywbeth am y cyflwr dynol ac i ddal drych i fyw ein llygaid ni fel cenedl.”

Bydd ‘Gwaddol Iola’ yn cael ei lansio’n swyddogol mewn digwyddiad yn Galeri, Caernarfon ar ddechrau mis Rhagfyr – flwyddyn union ers dyddiad angladd yr actores yn 2017.