Mae ffermwr o Geredigion wedi cael ei enwi’n ‘Stocmon Llaeth y Flwyddyn’ yn y Sioe Laeth Gymreig yng Nghaerfyrddin heddiw (dydd Mawrth, Hydref 30).

Mae’r wobr yn cael ei rhoi’n flynyddol i ffermwr sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i’r diwydiant llaeth yng Nghymru, ac eleni Adam Jones o ardal Llandysul sydd wedi’i hennill.

Derbyniodd y wobr o £500 a bwrdd caws wedi’i ysgythru mewn seremoni a oedd yn cynnwys yr Ysgrifennydd tros Faterion Amaeth, Lesley Griffiths, a Chadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Cymru, Gareth Richards.

Cyfraniad

Cafodd Adam Jones ei eni a’i fagu ar y fferm deuluol yn Synod Inn ger Llandysul.

Ar ôl graddio o Brifysgol Harper Adams yn 2004, dychwelodd i’r fferm er mwyn gweithio mewn partneriaeth â’i rieni.

Cymrodd ofal o’r fferm yn gyfan gwbl yn 2013, gan ehangu’r fuches odro o 120 o wartheg i 280.

Mae’r fuches ei hun yn cynnwys cymysgedd o wartheg Ffrisian pur a Jersey croes. Mae hefyd yn cadw 120 o heffrod mewn llo, a 126 o wartheg ifanc.