Mae bardd ac academydd yn dweud bod croesi’r hanner cant wedi rhoi “elfen adolygol” i’w gyfrol ddiweddaraf o farddoniaeth.

Yn ôl Gerwyn Wiliams, mae’r teitl Cardiau Post yn cyfeirio at y casgliad a gadwai ei hen fodryb yn Llandrillo ger Corwen, aelwyd yr arferai ymweld â hi pan oedd yn blentyn.

Fel yr oedd y cardiau hynny’n magu chwilfrydedd ynddo ar y pryd wrth iddyn nhw gynnwys enwau “egsotig” fel ‘Shrewsbury’, ‘Torquay’ a’r ‘Cotswolds’, dywed fod gwahanol lefydd yn bwysig yn ei gerddi diweddaraf hefyd.

“Mae cerdyn post ar ei ora fel darn o lên meicro,” meddai Gerwyn Wiliams wrth golwg360. “Nid ‘wish you were here’ sydd ynddo fo – mae modd dweud rhywbeth amgenach na hynny a’i grynhoi o.

“Efallai mai dyna beth mae rhywun yn ceisio’i wneud wrth sgrifennu, sef crynhoi rhywbeth a’i anfon at ddarllenwyr.”

“Elfen adolygol”

Er bod Gerwyn Wiliams yn mynnu nad cerddi “atgofus” sydd yn ei gyfrol newydd, mae’n cyfaddef bod yna dipyn o “ailymweld” ynddi.

Ond mae’r gyfrol yn “fyw iawn” yn y presennol hefyd, meddai wedyn, yn enwedig wrth i’r bardd ymateb i Brexit a’r ffaith bod ei blant, sef tair o ferched, yn “cadw ysbryd dyn yn ifanc”.

“Mae amryw byd o’r cerddi, nid yn fwriadol, yn ailymweld â golygfeydd a phrofiadau yn fy ngorffennol – fel cartref fy nhaid, cartref fy hen nain a chartref fy hen fodryb a’m hen ewythr…” meddai.

“Maen nhw’n mynd yn ôl at brofiadau teulu, yn ailymweld â nhw, ac yn pwyso a mesur y profiadau hynny gyda phrofiadau diweddarach.”

Dyma glip o Gerwyn Wiliams yn adrodd un o gerddi’r gyfrol, sef ‘Llais’, er cof am y diweddar actor, Stewart Jones…