Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char ym Medwas, Caerffili wythnos ddiwethaf.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger Ystâd Ddiwydiannol Tŷ Bedwas ym Medwas tua 6.10yb ddydd Mawrth 23 Hydref.

Cafodd Jason Davey, 50 oed o ardal Pontypridd, a oedd yn gyrru’r beic modur, ei gludo i’r ysbyty am driniaeth ond bu farw ddydd Sadwrn, 27 Hydref.

Mae ei deulu’n cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad ac yn apelio ar unrhyw dystion neu fodurwyr â delweddau camera cerbyd ger y lleoliad ar adeg y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 gan ddyfynnu rhif cofnod 33 23/10/2018.