Mae prifathro o Gaerdydd wedi derbyn gorchymyn cymunedol ar ôl cael ei ganfod yn euog o ymosod yn rhywiol ar ddynes yn ei swyddfa.

Fe glywodd Llys y Goron Casnewydd fod Kevin Thomas, 47, wedi anfon negeseuon o natur rywiol at y ddynes – na ellir ei henwi – cyn cyffwrdd â hi’n amhriodol.

Mewn datganiad i’r llys, dywedodd y ddynes fod y digwyddiad wedi achosi pryder mawr iddi, gan effeithio ar ei bywyd beunyddiol.

Wrth ddedfrydu’r prifathro, dywedodd y barnwr ei bod yn “amlwg” bod Kevin Thomas eisiau perthynas â’r ddynes a oedd â dim diddordeb ynddo.

“Roeddech chi, yn eich byd, yn ddyn pwerus,” meddai’r barnwr. “Roeddech chi’n gwybod hynny ac yn barod i ddefnyddio’r pŵer hwnnw.

“Os bu’r byd fel hyn ar un adeg, nid yw felly erbyn hyn. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cymdeithas wedi newid.”

Dedfrydu

Cafodd Kevin Thomas  ddedfryd o ddwy flynedd o orchymyn cymunedol, sy’n cynnwys cyfnod o adferiad a 200 awr o waith di-dâl.

Mae hefyd wedi cael ei ychwanegu at y rhestr o droseddwyr rhyw, a’i orchymyn i dalu £2,500 ar gyfer costau’r erlyniad.

Does dim hawl ganddo gysylltu â’r ddynes o hyn ymlaen, chwaith.