Mi fydd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, yn ymweld â Fietnam yr wythnos hon fel rhan o ddirprwyaeth rhaglen Cymru Fyd-eang.

Pwrpas y rhaglen yw datblygu cysylltiadau rhyngwladol a hyrwyddo prifysgolion Cymru mewn marchnadoedd tramor.

Cafodd ei sefydlu yn 2015 fel partneriaeth rhwng Prifysgolion Cymru, Cyngor Prydeinig Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Llywodraeth Cymru.

Yn ystod ei hymweliad i Hanoi mi fydd Kirsty Williams yn cyfarfod a Phwyllgor Diwylliant, Addysg ac Ieuenctid y Cynulliad Cenedlaethol ac adrannau eraill o Lywodraeth Fietnam.

Bydd trafodaethau ynglŷn â phrosiectau partneriaeth barhaus, newidiadau i’r cwricwlwm, a dulliau o ymdrin â materion cyfredol ym myd addysg gan gynnwys cydraddoldeb rhywiol ym maes addysg.

Gallwn “ddysgu cymaint gan Fietnam” meddai Kirsty Williams, “maen nhw wedi diwygio eu cwricwlwm a’u haddysgeg: yn debyg i’r broses diwygio rydym yn ei chyflawni yng Nghymru ar hyn o bryd.

“Rwy’n awyddus i ddysgu mwy am y rhwystrau y gwnaethon nhw’n eu hwynebu, a sut mae Fietnam yn datblygu ei gweithlu athrawon ac arweinwyr ysgolion.”