Bu farw Elsie Nicholas, yr adroddwraig a’r eisteddfodwraig o Bontarddulais, yn 98 oed.

Yn ogystal â bod yn gystadleuydd brwd, bu’n hyfforddi degau o adroddwyr dros y blynyddoedd, gan barhau i gyflawni’r gwaith hwnnw tan yn ddiweddar.

Bu hefyd yn un o hoelion wyth Eisteddfod Gadeiriol yr Hendy, ac yn 2016 cafodd hi a’i merch, Delyth Mai Nicholas, eu hanrhydeddu gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru am eu gwaith gwirfoddoli.

Cyn hynny, fe dderbyniodd Elsie Nicholas Fedal T H Parry-Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2007 a Gwobr Seren y Steddfodau yn 2004.

O dan ei dylanwad, daeth ei phlant, Garry a Delyth Mai Nicholas, yn llefarwyr amlwg ac yn hyfforddwyr eu hunain yn eu tro.

Bu farw Elsie Nicholas ar Hydref 14 yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.