Mae angen creu “system gyfiawnder nodweddiadol i Gymru”, meddai’r Cwnsler Cyffredinol.

Mewn digwyddiad sydd wedi’i drefnu gan Gymdeithas y Cyfreithwyr heddiw (dydd Llun, Hydref 29), mae disgwyl i Jeremy Miles ddweud bod angen gwireddu gweledigaeth sy’n “adlewyrchu gwerthoedd nodweddion penodol cymdeithas Cymru”.

Dywed nad yw’r trefniadau cyfiawnder presennol yn “addas i’r diben”, a bod angen datganoli plismona a chyfiawnder er mwyn sicrhau system sy’n “deg a chyfartal” yng Nghymru.

Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r system gyfiawnder ar hyn o bryd, meddai, yw’r “pwysau cynyddol” a ddaw o ganlyniad i “doriadau parhaus” i gyllid.

“Yng Nghymru, rydym wedi gweld toriadau anghymesur o uchel i gymorth cyfreithiol o’u cymharu â’r toriadau a welwyd ar gyfer Lloegr a Chymru,” meddai Jeremy Miles.

“Mae’r ddarpariaeth Cymorth Cyfreithiol yn wynebu argyfwng yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n rhaid i ni weithredu.”

System “gymhleth”

Mae disgwyl i’r Cwnsler Cyffredinol hefyd ddweud mai “her fawr arall” yw integreiddio cyfiawnder â gwasanaethau cyhoeddus, gan fod y system lywodraethu bresennol yn “gymhleth, yn ddryslyd ac yn anghyson”.

“Mae hyn yn bennaf o ganlyniad i’r gwahaniaeth cynyddol rhwng y cyfreithiau yng Nghymru a Lloegr a dymuniad Llywodraeth Prydain i ddiogelu un awdurdodaeth gyfreithiol,” meddai wedyn.

“Caiff hyn effaith ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cydgysylltiedig, effeithlon ac effeithiol i Gymru.”