Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod Steve Baxter wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Simon Clark ym Mhentywyn.

Roedden nhw wedi bod yn chwilio am y dyn 52 oed ers tro.

Cafwyd hyd i gorff Simon Clark ar faes carafanau Grove ddydd Gwener, Medi 28, ac mae ei deulu wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf.

Mae pedwar o bobol eisoes wedi’u cyhuddo mewn perthynas â’r digwyddiad.

Mae Jeffrey Stephen Ward, 40 oed o Bentywyn wedi’i gyhuddo o lofruddio, tra bod Linda Mary Rowley, 52 oed o Bentywyn, Kirston Macklin, 52 oed o Gasnewydd, a Julie Louise Harris, 46 oed o Donypandy, wedi’u cyhuddo o gynorthwyo troseddwr.