Bydd dyn 51 oed gerbron ynadon Yr Wyddgrug ddydd Llun (dydd Llun, Hydref 29) wedi’i gyhuddo o lofruddio.

Cafodd John Barry Garner ei gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio Teresa Garner, 46 oed yn Llys Dewi, Pen-y-Ffordd, Treffynnon.

Cafodd yr heddlu eu galw ar Hydref 24, ac fe ddaethon nhw o hyd i gorff y ddynes.

Mae’r heddlu wedi diolch i’r gymuned leol.