Mae gŵyl i ddathlu amgueddfeydd Cymru’n dechrau heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 27) ar ôl cael ei lansio yng nghartre’r bardd Hedd Wyn ddydd Gwener.

Roedd Gweinidog Twristiaeth, Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn Yr Ysgwrn i lansio’r digwyddiad sy’n cynnig cyfle i bawb sy’n byw yng Nghymru neu sy’n ymweld â’r wlad dros hanner tymor i grwydro amgueddfeydd Cymru.

Yn rhan o’r ŵyl eleni mae arddangosfeydd arbennig, yn ogystal â gweithgareddau ymarferol i’r teulu oll – o lwybrau i berfformiadau, gweithdai a gweithgareddau Calan Gaeaf.

‘Hynod ffodus yng Nghymru’

Yn ystod ei ymweliad â’r Ysgwrn, cyhoeddodd Dafydd Elis-Thomas fod yr amgueddfa wedi ennill statws Amgueddfa Ardystiedig.

“Rydym yn hynod ffodus yng Nghymru bod gennym gyfoeth o amgueddfeydd sydd yn llawn gydag eitemau hynod o ddiddorol – o amgueddfeydd awyr agored ac amgueddfeydd byw fel Yr Ysgwrn, sydd bellach yn ardystiedig, i amgueddfeydd hynod arbenigol a chasgliadau lleol gwych,” meddai.

“Ystyriaf yr Ŵyl fel cyfle i amgueddfeydd estyn allan at eu cymuned leol a helpu pobol i drochi eu hunain yn eu diwylliant a’u treftadaeth. Gobeithio bydd hyn yn helpu i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobol i ddysgu mwy am ein hanes diddorol.”

Mae rhestr lawn o’r holl ddigwyddiadau sy’n digwydd fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru i’w gweld ar y wefan www.museums.wales/cy.