Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ethol Osian Rhys yn Gadeirydd newydd.

Yn wreiddiol o Bentre’r Eglwys ger Pontypridd, aeth i Ysgol Gyfun Llanhari yn Rhondda Cynon Taf,  cyn astudio gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ymaelododd â’r Gymdeithas pan oedd yn 14  oed, ac mae bellach yn 35 ac yn gweithio fel cyfieithydd.

Mae Osian Rhys yn dweud bod ei ethol yn Gadeirydd yn “fraint”. Bydd yn olynu Heledd Gwyndaf a dreuliodd sawl blwyddyn wrth y llyw.

“Lle i bawb”

“Un peth rydw i am ei bwysleisio ydy bod lle i bawb sy’n cefnogi’r Gymraeg i chwarae rhan yn y Gymdeithas,” meddai.

“Mae rhai o’n cefnogwyr yn barod i godi llais mewn protest neu hyd yn oed i dorri’r gyfraith dros eu daliadau.

“Ond mae’r rhan fwyaf o waith y Gymdeithas yn digwydd yn dawel bach – ysgrifennu llythyrau, mynd i gyfarfodydd, pwyso am newid lle bynnag gallwn ni.”