Mae Arweinydd Cyngor Wrecsam wedi cynnig beirniadaeth lem o Lywodraeth Cymru wedi iddyn nhw gyhoeddi eu cyllideb drafft.

Dan y gyllideb ddrafft mi fydd cynghorau ledled Cymru yn derbyn toriadau, gyda Chyngor Wrecsam i dderbyn £1.054m yn llai’r flwyddyn nesaf.

Yn ôl arweinydd Cyngor Wrecsam, mae’r setliad ariannol yn “ddinistriol”, ac mae’n dweud ei fod yn “siomedig tu hwnt”.

“Ydyn ni’n derbyn briwsion oddi ar y bwrdd yng ngogledd Cymru? Dw i’n credu ein bod ni,” meddai Mark Pritchard wrth y Daily Post. “A dw i’n credu bod yna hollt rhwng gogledd a de Cymru.

“Pam gweithio gyda Llywodraeth Cymru, a gweithio’n agos iawn gyda nhw i wireddu eu blaenoriaethau, os nad oes gennym ni’r arian.

“Ar ben hynny, dw i’n cael cyfarwyddiadau di-baid i roi’r gorau i’r toriadau o fewn Wrecsam. Maen [Llywodraeth Cymru yn] cymryd yr arian oddi wrthym ac wedyn yn ceisio ein hatal rhag gwneud toriadau.”

Y gogledd

Bydd cynghorau sir y gogledd yn derbyn £7.5m yn llai dan y gyllideb nag y gwnaethon nhw’r llynedd, ac mae’r toriadau yn fwy yn y gogledd o gymharu â gweddill Cymru.

Mae toriadau mwya’r wlad yn Ynys Môn, Conwy a Sir y Fflint – toriad o 1% sydd i bob un – tra bod ardaloedd yn ne ddwyrain Cymru yn profi cynnydd – bydd Caerdydd yn derbyn codiad o 4%.

Yn dilyn cyfarfod diweddar rhwng y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ac arweinwyr cynghorau sir Llafur yn unig, mae Llywodraeth Cymru wedi’u cyhuddo o ddangos ffafriaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi “gweithio’n galed i gynnig y setliad gorau posib i lywodraeth leol yn ei nawfed flwyddyn o lymder” ac wedi cymryd camau i geisio lleddfu’r toriadau mae cynghorau wedi bod yn eu disgwyl ers y gyllideb derfynol y llynedd.