Does dim sicrwydd ynglŷn â sut fydd Brexit yn effeithio ar ddatganoli, ond mae disgwyl iddo wneud y broses o ddeddfu yn “fwy cymhleth”.
Dyna farn Hedydd Phylip, academydd o Ganolfan Llywodraethiant Cymru a fydd yn trafod y mater mewn digwyddiad Fabians Cymru y p’nawn yma.
“Mae Brexit yn golygu bod pa bwerau sydd wedi’u datganoli yn llawer mwy amwys,” meddai wrth golwg360.
“Ac mae’n golygu bod y broses o ddeddfu dros y meysydd yma, yn awr, yn broses lot fwy collaborative rhwng Caerdydd a Llundain.
“Does dim [ateb du a gwyn ynglŷn â sut effaith bydd Brexit yn cael ar ddatganoli]. Achos dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd y deddfau yma.
“Yn 2017 roedd yna ymgais i wneud datganoli yn gliriach – Deddf Cymru. Ac mae’r broses Brexit yn dadwneud peth o’r gwaith yna.
“Oherwydd mae’n gwneud y broses o ddeddfu mewn meysydd datganoledig yn fwy cymhleth.”
Y Mesur Ymadael
Yn dilyn Brexit, bydd meysydd a oedd arfer dod dan awdurdod yr Undeb Ewropeaidd yn dod yn gyfrifoldebau i wledydd Prydain.
A bydd angen penderfynu pwy sy’n gyfrifol am ba feysydd – y llywodraethau datganoledig neu San Steffan.
Y Mesur Ymadael yw’r ddeddf a fydd yn penderfynu hyn, ac mae’r gwaith o ddod i gasgliad tros y mater yn parhau.
Gwnaeth y llywodraethau datganoledig gyhuddo Llywodraeth San Steffan o geisio cipio pŵer ar ddechrau’r broses hwnnw.
Mae Hedydd Phylip yn cydnabod bod sail i’r honiad yna yn wreiddiol, ac mae’n dweud bod yna “farc cwestiwn” o hyd ynglŷn ag ydy Cymru a’r Alban yn cael eu twyllo.
Dan y drefn bresennol, byddai modd i Gynulliad newid cyfreithiau mewn rhai meysydd, ond mewn meysydd eraill byddai modd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig “rhewi pwerau”, meddai.