Mae staff Prifysgol Bangor wedi cael llythyr yn eu rhybuddio bod eu swyddi yn y fantol.

Ysgrifennodd yr Is-Ganghellor John Hughes i roi gwybod i’r gweithwyr bod y brifysgol yn gorfod arbed £5 miliwn.

Yn ei lythyr mae’r boss yn dweud bod llai o fyfyrwyr, ynghyd â chynnydd cyflogau a chostau pensiwn, yn golygu bod angen arbed arian.

Fe dorrodd y brifysgol £8.5miliwn o’i chyllideb y llynedd ac osgoi diswyddo staff yn orfodol.

Ond mae hynny yn opsiwn y tro hwn, yn ôl John Hughes: “Bydd telerau diswyddo gwirfoddol yn cael eu hystyried mewn rhai ardaloedd, ond yn anffodus, ni allwn ddiystyru’r angen am ddiswyddiadau gorfodol ar hyn o bryd.”

Yn ôl y llefarydd Prifysgol Bangor, maen nhw yn ymgynghori gyda staff ac undebau.

Y brifysgol dan bwysau

“O ganlyniad i amrediad o ffactorau, mae’n debygol y bydd lefelau incwm y Brifysgol yn parhau i fod dan bwysau yn ystod y blynyddoedd nesaf,” meddai llefarydd.

“Gyda hyn mewn golwg, mae’r brifysgol yn edrych i leihau ei chostau ochr yn ochr â cheisio cynyddu ei hincwm lle bo hynny’n bosib.

“Yn seiliedig ar y rhagamcanion diweddaraf, bydd angen sicrhau lleihad o £5m i’n costau eleni, gydag arbediad mwy yn debygol y flwyddyn nesaf.

“Mae nifer o gamau yn cael eu hystyried wrth gyflawni’r arbedion hyn a bydd y brifysgol yn ymgynghori â staff a’r undebau llafur wrth i fanylion pellach ddod i law dros y misoedd nesaf.”