Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi yn barod i fynd i’r afael ag effeithiau ‘Brexit heb fargen’ ar ei phorthladdoedd, yn ôl gweinidog.

Mae adroddiad gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) yn awgrymu bod angen i’r Llywodraeth fynd ati ar frys i sicrhau bod ganddyn nhw isadeiledd a staff digonol.

Heb y paratoadau hynny, mae’n bosib y bydd yna dagfeydd hir o draffig mewn pyrth ledled gwledydd Prydain – gan gynnwys porthladdoedd Caergybi ac Abergwaun.

Ond yn siarad yn Nhŷ’r Cyffredin mae’r Gweinidog Brexit, Arglwydd Martin Callanan, wedi wfftio’r gofidion gan ddweud bod gan y Llywodraeth “gynlluniau cadarn”.

Cynlluniau

“Dydyn ni ddim eisiau gadael heb daro bargen, ond fel Llywodraeth gyfrifol rhaid i ni baratoi am hynny,” meddai Martin Callanan.

“Rydyn ni eisiau dêl, ac rydym yn cynnal trafodaethau a’n gweithio i gael dêl. Ond rhaid bod yn gyfrifol. A rhaid paratoi rhag ofn nad oes dêl.

“Mae cynlluniau wrth gefn yn cael eu paratoi gyda’r nod o gadw rheolaeth tros unrhyw broblemau posib.”