Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Sir y Fflint.

Cafodd swyddogion Heddlu’r Gogledd eu galw i dŷ ym Mhen-y-Ffordd yn Nhreffynnon am 10 o’r gloch y bore ‘ma (dydd Mercher, 24 Hydref) lle cafwyd hyd i gorff dynes.

Meddai’r Ditectif Arolygydd Chris Bell:  “Mae dyn, a oedd yn bresennol yn y cyfeiriad, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.

“Mae ymchwilwyr trosedd yno ar hyn o bryd. Mae teulu’r person a fu farw a chrwner Heddlu Gogledd Cymru wedi cael gwybod.”

Ychwanegodd nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.