Fe allai trefi fel Llanbed, Llanybydder a Thregaron gael gwasanaeth rheilffordd unwaith eto wrth i adroddiad ddweud ei bod yn bosib ailagor y lein o Gaerfyrddin i Aberystwyth.

Fe allai’r gwaith o ailagor  yr hen reilffordd yn y Gorllewin gostio £775m, yn ôl yr adroddiad gan gwmni ymgynghorol, Mott MacDonald.

Erbyn hyn, mae’r cwmni wedi dod i’r casgliad bod y cynllun yn un ymarferol, er bod yna rai cyfyngiadau amgylcheddol .

Mae’r adroddiad wedi cael ei groesawu gan grwpiau sydd o blaid y cynllun, gan gynnwys Aelodau Cynulliad a Seneddol lleol.

Cysylltu gogledd a de Cymru

Mae Adrian Kendon, cadeirydd y grŵp ymgyrchu, Traws Link Cymru, yn cydnabod bod cost y prosiect yn “ymddangos yn uchel”.

Ond dywed bod prosiectau ffyrdd eraill, fel datblygu ffordd osgoi’r M4 o gwmpas Casnewydd, yn mynd i gostio “llawer mwy”.

“Hir yw pob aros, ond rydym wrth ein bodd gyda’r adroddiad,” meddai. “Mae’n amlwg yn dangos nad yw’r prosiect hwn yn freuddwyd gwrach ac mae popeth nawr yn dibynnu ar ewyllys gwleidyddol Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig.”

“Rydym yn credu’n gryf fod y prosiect hwn yn fwy gwerth chweil [na’r prosiectau ffyrdd eraill], gan y byddai’n cysylltu gogledd a de’r wlad, yn adfywio cymunedau ac yn hybu economi gorllewin Cymru.”

“Syniad llawn dychymyg”

Mewn datganiad ar y cyd, mae’r adroddiad wedi cael croeso brwd gan wleidyddion Plaid Cymru o fewn yr ardal.

“Mae hwn yn syniad llawn dychymyg a chyffrous a fydd, dw i’n siŵr, yn ysbrydoli pobol Cymru ac yn newid siâp ein cenedl,” meddai Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru ac Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

“Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â datblygu pob rhan o Gymru, yna dyma eu cyfle i brofi hynny.”

Cyfrannodd Llywodraeth Cymru hyd at £300,000 ar gyfer yr astudiaeth, er mai’r amcangyfrif ar y pryd oedd y byddai’r cynllun yn costio rhwng £600m a £750m.