Mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru’n dangos bod argyfwng meddygon teulu Cymru’n parhau i waethygu.

Dim ond 86% o gleifion a gafodd eu holi fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru oedd yn hapus gyda lefel y gofal gawson nhw gan eu meddyg teulu yn 2017-18 – 90% oedd y ffigwr y flwyddyn gynt.

Dywedodd 42% o gleifion eu bod yn ei chael yn anodd trefnu apwyntiadau gyda’u meddyg teulu ar amser cyfleus. Ymhlith y rhesymau am hyn roedd rhestr aros hir (51%), diffyg ateb galwadau ffôn (46%), a methu â gweld meddyg o’u dewis (26%).

Mae nifer y meddygon teulu sy’n gweithio yng Nghymru wedi cyrraedd ei lefel isaf ers 2013, ac fe fu’n rhaid i fwy na 40,000 o gleifion ddod o hyd i feddyg teulu newydd yn ystod y pum mlynedd diwethaf wrth i feddygfeydd gau.

Fis Ebrill, daeth adroddiad gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol i’r casgliad fod Cymru’n derbyn y swm lleiaf y pen o wariant y Gwasanaeth Iechyd (7.3%) o holl wledydd Prydain.

‘Dim syndod’                                                          

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns na fyddai meddygon teulu’n cael eu synnu o weld y ffigurau gan eu bod wedi bod yn rhybuddio am argyfwng ers rhai blynyddoedd.

“Pan fo gennym Lywodraeth Cymru sy’n anwybyddu rhybuddion y BMA a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, dydy’r newyddion yn ddim llai nag y byddwn yn ei ddisgwyl.

“Mae meddygon teulu yng Nghymru’n gweithio dan bwysau sylweddol gyda llai o gefnogaeth nag yn unman arall yn y DU, felly does dim syndod y byddai’r straen yn cael effaith ar y gwasanaeth y mae pobol yn ei dderbyn.”

“Awyddus i wella”

Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Dangosodd yr arolwg diweddaraf fod y mwyafrif llethol o bobl yn fodlon â’r gofal y maent yn ei dderbyn gan eu meddyg teulu, sy’n cymharu’n dda iawn â meysydd eraill o wasanaeth cyhoeddus ac sy’n uwch nag arolygon tebyg yn Lloegr. Fodd bynnag, mae Cymdeithas Feddygol Prydain, Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Iechyd (GIG) Cymru yn awyddus i wella ar hyn a bydd yn astudio’r materion sylfaenol a nodwyd yn yr arolwg fel y gellir mynd i’r afael â hwy.

“Mae ein hymgyrch genedlaethol a rhyngwladol Dyma Gymru: hyfforddi, gweithio, byw yn marchnata Cymru a’n GIG fel lle ardderchog i feddygon, gan gynnwys meddygon teulu.  Mae’r ymgyrch wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant sy’n dod i Gymru. Yn ogystal â gorlenwi ein lleoedd hyfforddi meddygon teulu yn 2017, mae gennym bellach y nifer uchaf erioed o gofrestryddion meddygon teulu yng Nghymru.”