Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi lansio rhif ffôn meddygol newydd a fydd yn ei gwneud yn haws i gleifion gael gafael ar wasanaeth ar adeg pan fo’r achos ddim yn argyfwng.

Bydd deialu 111 o fewn y rhanbarth yn rhoi mynediad at wasanaeth a fydd yn darparu’r cyngor, y cymorth neu’r driniaeth berthnasol i gleifion – a’r cyfan mewn un man.

Cafodd y cynllun ei dreialu yn Sir Gaerfyrddin y llynedd, a’r nod yw ei ehangu i Geredigion a Sir Benfro ar Hydref 31.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi bod yn gweithredu’r cynllun ers mis Hydref 2016, a Phowys ers dechrau’r mis eleni.

“Symleiddio”

“Ar hyn o bryd yn y Gwasanaeth Iechyd, mae mynediad at wasanaethau gofal brys yn ddryslyd iawn,” meddai Richard Bowen, Cyfarwyddwr y Prosiect.

“Nid ydych yn gwybod pryd y mae gwasanaethau ar agor, ac, yn dibynnu ar eich cyflwr, nid ydych yn gwybod pa weithiwr proffesiynol gofal iechyd fyddai’r person gorau i chi.

“Yr hyn yr ydym am ei wneud yn Hywel Dda yw symleiddio pethau.”

Mae’r cynllun yn dwyn Galw Iechyd Cymru a’r Gwasanaeth Meddyg Teulu y tu allan i oriau ynghyd o dan un rhif.

Bydd staff ychwanegol yn cael eu cyflogi ar gyfer y gwasanaeth newydd hefyd.

Sut i’w ddefnyddio?

Mae cleifion yn cael eu cynghori i ddefnyddio’r rhif 999 ond ar adegau o argyfwng, tra bo’r rhif newydd, 111, ar gael ar gyfer achosion difrys.

Bydd deialu 111 yn arwain at y gwasanaethau canlynol:

  • Galw Iechyd Cymru – gwasanaeth 24 awr y dydd, sydd o dan reolaeth y gwasanaeth ambiwlans, ar gyfer cyngor a chymorth i gleifion ar faterion iechyd;
  • Meddyg Teulu y tu allan i oriau – gwasanaeth sy’n cael ei reoli gan y bwrdd iechyd lleol.

Ar ôl deialu’r rhif, bydd pobol yn siarad yn gyntaf gyda derbyniwr galwadau, a fydd yn gofyn cyfres o gwestiynau.

Bydd y derbyniwr wedyn yn cyfeirio’r alwad at weithwyr gofal iechyd, boed y rheiny’n nyrsys, meddygon teulu neu’n fferyllwyr.