Mae dau o undebau’r ffermwyr yng Nghymru yn cynnal cyfarfod ar y cyd heddiw er mwyn amlinellu’r hyn y maen nhw’n credu a ddylai ddigwydd i gymorthdaliadau’r diwydiant amaeth wedi Brexit.

Mewn cam anarferol, mae Undeb Amaethwyr Cymru a NFU Cymru wedi penderfynu cydweithio yn sgil bwriad Llywodraeth Cymru i newid y ffordd y mae ffermwyr yn derbyn cymorthdaliadau.

Bydd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, sef ‘Brexit a’n Tir’, yn dod i ben ar Hydref 30.

“Rydym yn unedig”

Yn y cyfarfod ym Mae Caerdydd, bwriad NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru yw cyflwyno cyfres o bolisïau “Cymreig” a fydd yn “gosod bwyd, ffermio, bywoliaeth, cymunedau a’r amgylchedd ar dir cadarn mewn byd ôl-Brexit.”

Dywed John Davies, Llywydd NFU Cymru: “Mae’n glir beth sydd yn y fantol os ydym ni’n cael polisi gwledig y dyfodol yn anghywir.

“Mae Brexit yn golygu ein bod yn wynebu bygythiadau allanol sydd y tu hwnt i reolaeth ffermwyr.”

Yn ôl Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, wedyn: “Rydym yn unedig yn ein gwrthwynebiad i unrhyw gynlluniau a fydd yn bygwth nid yn unig teuluoedd gwledig, ond hefyd y degau ar filoedd o unigolion a busnesau sy’n dibynnu ar y sector.

“Mae’n rhaid i ni ystyried cynllunio, adeiladu a gweithredu polisi newydd trwy broses o esblygiad, nid chwyldro.”

‘Rhaid dod a’r system i ben’

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynnu droeon y bydd yn rhaid i’r cymorthdaliadau presennol, sy’n cael eu talu i ffermwyr yn dibynnu ar faint o dir sydd ganddyn nhw, ddod i ben.

Ym mis Medi, fe anfonodd yr Ysgrifennydd tros Faterion Amaeth, Lesley Griffiths, lythyr at holl ffermwyr Cymru yn egluro ei rhesymau tros gael gwared ar y Taliad Sylfaenol.

Mae disgwyl i’r cynlluniau ariannu newydd ddod i rym erbyn 2025, ac maen nhw’n cynnwys system o grantiau busnes a chronfa a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am wella’r amgylchedd.