Dylai atgyweirio ffyrdd sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru fod yn flaenoriaeth cyn adeiladu rhai newydd, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Wrth archwilio i gyflwr ffyrdd y wlad, mae’r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi dod i’r casgliad bod prinder arian a gwaith blaenoriaethu’n broblem yng Nghymru.

Maen nhw wedi dod i’r casgliad felly fod angen mabwysiadu dull hirdymor i ddelio â’r broblem,  yn hytrach na delio â gwaith atgyweirio o naill flwyddyn i’r llall.

Maen nhw hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n sefydlu pwyllgor o arbenigwyr adeiladu ffyrdd i’w cynghori ynghylch y ffordd orau i arbed arian wrth ymgymryd â gwaith o’r fath.

‘Angen gweithredu’n awr’

“Mae consensws eang y byddai’r sefyllfa’n gwella pe bai cyrff llywodraeth leol ac asiantaethau cefnffyrdd yn cael cyllid hirdymor – ond rydym wedi’n dal o hyd yn y cylch blynyddol,” meddai Russell George, cadeirydd y pwyllgor.

“Mae angen i ni weithredu’n awr, ac mae’r Pwyllgor hwn o’r farn y dylid rhoi blaenoriaeth amlwg i atgyweirio a gwella’r rhwydwaith sydd gennym ar hyn o bryd yn hytrach nag adeiladu ffyrdd newydd.”

Yn ôl y pwyllgor, mae’r rhwydwaith o ffyrdd yng Nghymru yn ymestyn dros 21,000 o filltiroedd ac yn werth £13.5bn.