Mae elusen anifeiliaid yn croesawu’r cyhoeddiad gan Gyngor Caerdydd ei bod yn “annhebygol” y byddan nhw’n gwahardd cŵn o gaeau chwaraeon y brifddinas.

Fe lansiodd y Cyngor ymgynghoriad yn ddiweddar a oedd yn ystyried cyflwyno rheolau newydd ar gyfer cŵn ar dir sy’n eiddo i’r awdurdod lleol.

Byddai’r rheolau newydd wedi golygu na fydd hawl gan berchnogion i fynd a’u cŵn ar hyd gaeau chwaraeon cyhoeddus o fewn y brifddinas.

Arwyddodd dros 16,000 o bobol ddeiseb yn gwrthwynebu’r cam, a bu gorymdaith yn y brifddinas ddydd Sul (Hydref 21).

“Mater dadleuol”

“Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiad ei bod yn annhebygol bod y cynnig hwn yn mynd yn ei flaen,” meddai Paul Smith o RSPCA Cymru.

“Yn amlwg, mae wedi bod yn fater dadleuol, ac maen yna dipyn o ddiddordeb wedi bod yn y cynlluniau hyn, gyda mwy na 16,000 o bobol yn arwyddo deiseb yn erbyn y cam.

“Mae’n gyrhaeddiad anferthol bod Caerdydd – ar y cyd ag awdurdodau lleol fel Caerffili – wedi gwrando ar bryderon ac wedi dweud y byddan nhw’n ailystyried y cynlluniau hyn.”