Mae Rali Cymru Dros Ewrop wedi’i chynnyng Nghaerdydd heddiw (Hydref 23) gan fyfyrwyr a phobol ifanc sy’n galw am ail bleidlais Brexit.

Fe ddaw yn dilyn yr orymdaith a gynhaliwyd yn Llundain ddydd Sadwrn diwethaf (Hydref 20). Roedd tua 700,000 o bobol yn honno, yn galw am gyfle arall i bobol fotio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae ystadegau yn dangos y byddai 73% o bobol ifanc Cymru yn pleidleisio yn erbyn Brexit pe bai refferendwm yn cael ei gynnal heddiw.