Mae Cyngor Tref Caernarfon yn cynnal cyfarfod cyhoeddus nos fory (dydd Mercher, Hydref 24) i glywed barn pobol leol am y posibilrwydd o wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i’r dref ymhen tair blynedd.

Y bwriad fyddai defnyddio adeiladau a strydoedd y dref gyfan – ar batrwm yr hyn ddigwyddodd yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Caerdydd ym mis Awst eleni – i gynnal y brifwyl, ei stondinau a’i amrywiol lwyfannau.

“Dewch i gefnogi Cyngor Dre yn ei gais i ddenu’r Eisteddfod Genedlaethol i strydoedd Caernarfon yn 2021,” meddai negeseuon ar wefan Facebook fore heddiw, gyda’r anogaeth i rannu’r genadwri ac ennyn brwdfrydedd.

Ers arbrawf Bae Caerdydd eleni, ac yn enwedig os y bydd modd sicrhau na fydd angen codi tâl mynediad ar eisteddfodwyr Llanrwst y flwyddyn nesaf na Thregaron yn 2020, fe fyddai eisteddfod yng Nghaernarfon – gan ddefnyddio tir y Castell – yn bosibilrwydd go iawn.