Mae mudiad iaith yn galw ar Gyngor Gwynedd i ail-ystyried eu polisïau twristiaeth “yn eu cyfanrwydd” er mwyn gwarchod cymunedau’r sir.

Yn ôl Cylch yr Iaith, dyw’r polisïau, y rheoliadau na’r canllawiau presennol ddim yn addas, gyda dim modd monitro nac adolygu effaith datblygiadau twristaidd ar gymunedau.

Maen nhw hefyd yn dweud bod datblygiadau o’r fath yn gallu “mwynhau penryddid” ar draul yr amodau “gwan” sy’n cael eu gosod ar eu cynlluniau.

Mewn llythyr at holl gynghorwyr Gwynedd, maen nhw’n galw ar y cyngor i “weithredu’n ddiymdroi” ar y mater, gan sefydlu trefn sy’n “llawer iawn cadarnach”.

“Ailystyried y polisïau twristiaeth”

“Mae angen trefn sy’n llawer cadarnach – trefn glir, ddiamwys a chyson yng ngolwg datblygwyr, cynghorwyr a threthdalwyr,” meddai Cylch yr Iaith.

“Mae hynny’n golygu ailystyried y polisïau twristiaeth yn eu cyfanrwydd, gan edrych o’r newydd ar natur, graddfa a budd cymunedol gwahanol fathau o ddatblygiadau.

“Mae Cyngor Gwynedd wedi colli gafael ar y sefyllfa. Sut gellir gwarchod ein cymunedau rhag cael eu difetha, heb reolaeth gyhoeddus ystyrlon a chyfrifol ar ddatblygiadau sy’n gallu cael effaith bellgyrhaeddol a niweidiol ar ein cymunedau?”

Polisïau newydd

Mae Cylch yr Iaith yn galw ar Gyngor Gwynedd…

o i lunio diffiniadau o ormodedd – o ran datblygiadau twristaidd – ym mhob categori a chyd-destun;

o i sefydlu trefn fonitro ac adolygu datblygu twristaidd a fydd yn mesur effeithiau datblygiadau yn unigol ac yn gronnol;

o i greu amodau cadarnach wrth ystyried ceisiadau cynllunio datblygiadau twristaidd er mwyn osgoi unrhyw niwed cymunedol.

Mae llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd wedi ymateb i ymholiadau gan golwg360 trwy ddweud y byddan nhw “rhoi ystyriaeth fanwl i lythyr Cylch yr Iaith ac yn ymateb yn llawn maes o law”.