Mae cyfres o wrandawiadau a fydd yn ystyried cais am ganiatâd cynllunio i ddatblygu Wylfa Newydd, yn cychwyn heddiw (dydd Mawrth, Hydref 23).

Bydd y gwrandawiadau’n cael eu cynnal ar Faes y Sioe ym Mona dros y tridiau nesaf, lle bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried cais gan y cwmni niwclear, Horizon.

Yn dilyn y cyfarfodydd, bydd yr Arolygiaeth yn cyflwyno argymhelliad i Lywodraeth Prydain, a nhw wedyn fydd yn penderfynu pa un a ddylai caniatâd gael ei roi ai peidio.

Yn ôl Cyngor Sir Fôn, maen nhw am sicrhau bod y cynlluniau ar gyfer Wylfa Newydd yn cael eu “harolygu a’u herio er mwyn diogelu’r canlyniadau gorau posib i’r ynys.”

Cynllun “sylweddol a chymhleth”

“Mae’r Wylfa Newydd yn brosiect seilwaith ynni enfawr o bwysigrwydd cenedlaethol,” meddai Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Sir Fôn.

“Mae maint a chymhlethdod y cynllun gerbron yn sylweddol a chymhleth ac mae’r gwaith o’i archwilio yn hanfodol.

“Mae’n blaenoriaeth ni’n parhau’r un fath. Rydym wedi’n hymrwymo i ddiogelu a sicrhau’r fargen orau i gymunedau leol os yw’r Wylfa Newydd yn mynd ymlaen.”

Mae ymgyrchwyr o’r grŵp PAWB wedi mynegi eu gwrthwynebiad i’r datblygiad droeon, gan ddweud y bydd Wylfa B yn achosi “dinistr amgylcheddol”.