“Mae angen i’r Gymraeg symud gyda’r dechnoleg,” meddai Eluned Morgan wrth gyhoeddi cynllun a fydd yn gwneud yn haws defnyddio’r iaith ym myd technoleg.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobol ifanc ac oedolion i ddefnyddio technoleg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y cynllun yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu technoleg a fydd yn gallu adnabod llais Cymraeg ac ymateb iddi drwy gyfrwng yr iaith honno.

“Ry’n ni eisiau i bobol fedru defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn hawdd yn eu bywydau cyfrifiadurol – yn y tŷ, yn yr ysgol, yn y gwaith neu wrth symud o le i le,” meddai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg.

“Mae technoleg hefyd yn rhoi llawer o gyfleoedd i ni gynyddu ein defnydd o’r Gymraeg neu i’w dysgu, ond er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni sicrhau bod yr isadeiledd cywir yn ei lle.

“Mae technoleg yn symud yn gyflym. Mae angen i’r Gymraeg symud gyda’r dechnoleg. Dyna nod ein cynllun.”