Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau mai dyn 26 oed oedd yr unigolyn a syrthiodd oddi ar bont ger Caerdydd heddiw (dydd Llun, Hydref 22).

Mae lle i gredu bod y dyn wedi syrthio oddi ar y bont yn Coryton, sy’n ymestyn dros ddarn o draffordd yr M4, cyn cael ei daro gan gerbyd.

Fe ddigwyddodd am dri o’r gloch y bore, a bu’n rhaid cau’r draffordd am bron i dair awr tra’r oedd y gwasanaethau brys yn gwneud eu gwaith.

Fe gafodd y gŵr ei gludo wedyn i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle mae’n derbyn triniaeth ar gyfer anafiadau difrifol.

Mae’r heddlu’n dweud bod yr ymchwiliad yn parhau, ac maen nhw’n galw ar unrhyw dystion i’r digwyddiad i gysylltu â nhw.