Mae rhan o draffordd yr M4 wedi bod ar gau am bron i dair fore heddiw (dydd Llun, Hydref 22) oherwydd bod dyn wedi “neidio oddi ar bont” yn ardal Coryton.

Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu De Cymru fod yr ardal rhwng cyffordd 29 a 32 wedi ei chau rhwng 3yb a  5:45yb er mwyn i’r awdurdodau allu delio â’r argyfwng.

Mae’r dyn wedi’i gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ac mae’r heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad.