Edwina Hart
Mae’r Gweinidog Busnes Edwina Hart wedi cyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i dri sector newydd er mwyn ceisio hybu economi Cymru.

Bydd y Llywodraeth yn gwahodd arbenigwyr i roi cyngor i weinidogion am y tair sector newydd, sef Bwyd ac Amaeth, Adeiladwaith, a Thwristiaeth.

Dywedodd Edwina Hart mai’r nod oedd “adeiladu ar y chwe sector sydd eisoes yn cael blaenoriaeth er mwyn helpu busnesau yng Nghymru i dyfu a chreu’r swyddi sydd eu hangen ar gyfer datblygu ein heconomi yn y dyfodol.”

Bydd panel ymgynghori yn cael ei sefydlu ar gyfer pob sector, yn ôl y gweinidog, gyda phobol sydd ag “arbenigedd yn eu maes ac enw da yn eu sector” yn aelodau o’r panel hwnnw.

Yn ôl Edwina Hart, bydd y paneli hyn yn “help i ddatblygiad polisi Llywodraeth Cymru ac yn golygu bod cyngor a gwybodaeth arbenigol ar gael i mi.”

Dywedodd Edwina Hart ei bod hi’n bwysig iddi “gymryd cyngor gan y rheiny sydd allan ar lawr gwlad yn gweithio yn y diwydiant o ddydd i ddydd.”

‘Lledu’r jam yn rhy denau?’

Roedd y gweinidog yn awyddus i bwysleisio na fyddai ychwanegu tri sector newydd at flaenoriaethau busnes y Llywodraeth yn golygu “bod y jam yn cael ei ledu’n rhy denau”.

“Rydyn ni wedi edrych ar y systemau oedd mewn grym, eu hadolygu nhw, a’u torri nhw lawr,” meddai Edwina Hart, “ac fe fyddai peidio cynnwys y tri sector yma ar y rhestr blaenoriaethau yn rhoi’r neges anghywir i fusnesau”.

Roedd hi’n methu cadarnhau, fodd bynnag, y byddai rhagor o arian yn cael ei ddarparu yn ei chyllideb er mwyn ariannu’r tri sector newydd.

Awgrymodd y bydd yr arian ar gyfer y chwe sector presennol gael ei rannu rhwng y naw o hyn ymlaen.

Y paneli

Mae cadeiryddion y tri phanel newydd eisoes wedi eu penodi, gydag aelodaeth bob panel i gael ei benderfynu o fewn yr wythnosau nesaf.

Yn ôl Edwina Hart, fe fydd y paneli hyn yn bwysig iawn er mwyn “dod â phobol o gwmpas y bwrdd a rhoi’r arweinia mwyaf addas i fi.”

Y cadeirydd ar gyfer  y panel Bwyd ac Amaeth fydd Dr Haydn Edwards, sy’n gyn-bennaeth a phrif weithredwr ar Olwg Menai.

Cadeirydd y panel Adeiladwaith fydd David Joyce, Prif Swyddog Gweithredol VINCI Pls, sy’n gwmni adeiladu a chyfleusterau Prydeinig.

Dan Clayton Jones fydd yn cadeirio’r panel Twristiaeth. Mae’n gadeirydd ar Gronfa Treftadaeth y Loteri, ac mae wedi gweithio i gwmni ceir Ford, Bwrdd Twristiaeth Cymru, a chwmni gwestai Rank yn y gorffennol.

Dim ehangu’r Parthau Menter

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Edwina Hart na fyddai cynnwys y sectorau blaenoriaeth busnes newydd yn golygu y byddai mwy o Barthau Menter yn cael eu creu er mwyn cynnwys y sectorau hyn.

“Mae pob rhan o Gymru yn delio â’r diwydiannau Amaethyddol, Adeiladaeth a Thwristiaeth,” meddai Edwina Hart, gan ddweud bod y pum Parth Busnes presennol yn adlewyrchu ardaloedd o ddiwydiant arbennig oedd angen ei hyrwyddo.

“Ond os bydd ardaloedd arbenigol o fewn y meysydd hyn yn codi yn y dyfodol, efallai bydd yna gyfle eto i ystyried rhagor o Barthau Menter yng Nghymru.”

Gwnaed y cyhoeddiad y byddai pum parth menter yn cael eu cyflwyno i Gymru nos Fawrth, gan roi mantais treth i ddiwydiannau arbennig mewn rhannau penodol o’r wlad.

Mae’r penderfyniad wedi cythruddo rhai sy’n teimlo y dylai diwydiannau ar draws Cymru gael manteision treth i helpu’r economi ar draws y wlad.