Mae dau ddyn y ddalfa yn dilyn digwyddiad ar gyrion Abertawe.

Cafodd heddlu arfog eu galw i ardal Llansamlet yn nwyrain y ddinas am 11.17 fore Sadwrn (Hydref 20).

Dydyn nhw ddim wedi cadarnhau union natur y digwyddiad, ond mae lle i gredu iddyn nhw ddod o hyd i ddryllau mewn cyrch.

Mae dau ddyn, 34 a 35 oed, wedi cael eu harestio ac maen nhw’n cael eu holi yn y ddalfa.