Aled Roberts
Roedd y Comisiwn Etholiadol wedi torri ei gynllun iaith ei hun yn achos yr Aelod Cynulliad Aled Roberts, cyhoeddodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg heddiw.

Daw’r ymchwiliad wedi i Aled Roberts gael ei wahardd o’i sedd yn y Cynulliad ym mis Mai am ei fod wedi parhau’n aelodau o gyrff cyhoeddus ar ôl sefyll yn etholiadau’r Cynulliad.

Ond honnodd nad oedd wedi cael gwybod ei fod wedi ei wahardd rhag sefyll oherwydd nad oedd y canllawiau Cymraeg ar wefan y comisiwn yn gyfredol.

Dywedodd adroddiad annibynnol gan Gerard Elias QC, Comisiynydd Safonau’r Cynulliad, fod cyngor y Comisiwn Etholiadol wedi cyfeirio Aled Roberts at reolau oedd yn hen.

Cafodd Aled Roberts ei adfer i’w sedd yn y Cynulliad ym mis Gorffennaf.

Heddiw cyhoeddodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg adroddiad ymchwiliad sy’n dod i’r casgliad fod y Comisiwn Etholiadol wedi gweithredu’n groes i’w Gynllun Iaith Gymraeg.

Daw’r Bwrdd i’r casgliad na wnaeth y Comisiwn Etholiadol drin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal wrth ddarparu canllawiau i ymgeiswyr cyn Etholiad y Cynulliad yn gynharach eleni.

‘Anghyflawn neu anghywir’

Yn 2010 cafodd gorchymyn statudol newydd ei gyhoeddi yn gwahardd Aelodau Cynulliad rhag bod yn aelodau rhai sefydliadau eraill.

Yn sgil hynny bu i’r Comisiwn Etholiadol ddiweddaru ei ganllawiau Saesneg ar gyfer darpar ymgeiswyr, ‘Can you stand for election’, ond ni chafodd y canllawiau cyfatebol Cymraeg eu diweddaru ar yr un pryd.

“Fe all cyhoeddi gwybodaeth anghyflawn neu anghywir yn y Gymraeg arwain at roi gwybodaeth gamarweiniol i’r darllenydd,” meddai Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws.

“Byddwn ni fel Bwrdd yn dwyn sylw sefydliadau cyhoeddus eraill at bwysigrwydd cyhoeddi gwybodaeth gywir yn y Gymraeg bob amser. Mae hynny’n hanfodol er mwyn rhoi hyder i’r cyhoedd ddefnyddio’r Gymraeg yn eu hymwneud â sefydliadau cyhoeddus.”

Mae’r Bwrdd wedi llunio cyfres o argymhellion i’r Comisiwn Etholiadol i weithredu arnynt er mwyn sicrhau y byddant yn cydymffurfio ag ymrwymiadau’r Cynllun yn y dyfodol.

Mae’r argymhellion yn ymwneud â sicrhau y bydd unrhyw ddogfennau a chanllawiau yn y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu cynhyrchu, eu cyhoeddi  a’u dosbarthu ar yr un pryd yn y ddwy iaith yn y dyfodol.

Argymhella’r Bwrdd hefyd y dylai’r Comisiwn baratoi a darparu hyfforddiant i’w staff ar ofynion y Cynllun Iaith ac am statws cyfreithiol y Gymraeg a sut mae gweithredu’n unol â hwy; ac y dylai’r Comisiwn wneud ymchwiliad mewnol o gynnwys cyfrwng Cymraeg y wefan a pharatoi rhaglen i hyrwyddo argaeledd ac ansawdd y gwasanaethau Cymraeg cyn etholiadau yn y dyfodol.