Mi fydd dysgwyr Cymraeg yn elwa’n fawr o ailddatblygiad gwerth £30 miliwn yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, yn ôl Prif Weithredwr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.

Y prosiect chwe blynedd gan Amgueddfa Cymru yw’r datblygiad mwyaf uchelgeisiol yn ei hanes ac mae iaith ac addysg wrth wraidd ei gam nesaf, yn ôl y rheolwyr .

Bydd Canolfan Dysgu Weston yn Sain Ffagan, sydd eisoes wedi croesawu dros 60,000 o ddisgyblion a myfyrwyr ers agor ym mis Medi 2017, yn creu gofod newydd i ddysgwyr ddod i nabod iaith a diwylliant Cymru yn well.

Yr Amgueddfa yw’r darparwr addysg mwyaf y tu allan i’r dosbarth yng Nghymru a rŵan maen nhw’n bwriadu cynyddu nifer yr ymweliadau addysg i Sain Ffagan gan 40%.

“Croesau dysgwyr o bob cefndir”

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol:

“Un o amcanion y Ganolfan yw croesau dysgwyr o bob cefndir sydd am ddysgu Cymraeg, ac mae cydweithio gyda Sain Ffagan wedi’n galluogi i gyflwyno hanes Cymru i ddysgwyr.

“Rydym wrth ein bodd bod pecyn ar gael i ddysgwyr sydd am ymweld â’r safle, ac yn arbennig o falch o allu trefnu digwyddiad blynyddol arbennig i ddysgwyr yn yr Amgueddfa.”

“Sain Ffagan yn chwarae rhan allweddol”

Un sy’n “eithriadol o falch o weld y datblygiadau” yn Sain Ffagan yw Siân Gwenllïan, ysgrifennydd cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Addysg a’r iaith Gymraeg.

“Dyma gofnod amhrisiadwy o hanes gwerin Cymru ac mae’n greiddiol i’n dealltwriaeth ni o’n hanes fel cenedl.

“Gyda chyn lleied o ddysgu am ein hanes ni yng nghwricwlwm ysgolion Cymru ar hyn o bryd, mae canolfannau fel Sain Ffagan yn chwarae rhan allweddol fel canolfan addysgiadol ar gyfer ysgolion.

“Mae’n destun dathlu  bod pecyn newydd sbon wedi ei ddatblygu ar y cyd gan Sain Ffagan a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg gyda’r nod o gyflwyno hanes Cymru i ddysgwyr

“Mae hanes a diwylliant ac iaith yn mynd law yn llaw ac rwy’n hyderus bydd y buddsoddiad hwn yn cynnig fforwm newydd sbon i ddysgwyr ymgysylltu a’r Gymraeg drwy gofleidio hanes arbennig ein gwlad.”

Pigion project ailddatblygu Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru:

  • Ailwampiwyd y prif adeilad gan gynnwys y fynedfayn llwyr, bellach mae’n cynnwys ardal dan do a bwyty newydd sbon yn ogystal â chyfleusterau gwell i ymwelwyr. Mae’r Amgueddfa bellach yn atyniad glaw neu hindda, gyda digon i’w weld a’i wneud waeth beth fo’r tywydd.
  • Mannau newydd ar gyfer addysg ac ymchwil casgliadauyng Nghanolfan Ddysgu Weston sydd eisoes wedi croesawu dros 60,000 o ddisgyblion a myfyrwyr ers ei agor ym mis Medi 2017. Maent yn fannau o safon sy’n cyd-fynd ag enw da Amgueddfa Cymru fel darparwr addysg tu allan i’r ystafell ddosbarth mwyaf Cymru.
  • Tair oriel newydd sy’n cyfuno casgliadau hanes gwerin ac archaeoleg cenedlaethol Cymru:

–        Cymru… Yma cewch gip ar fywyd yng Nghymru dros 230,000 o flynyddoedd. Mae’r 300 gwrthrych a’r 16 stori newidiol yn rhoi cyfle i bawb gyfrannu a chreu hanes gyda’n gilydd.

–        Byw a bod Mae bywyd bob dydd hefyd yn rhan o’n hanes. Yn yr oriel hon, cewch weld sut mae pobl Cymru wedi gwisgo, bwyta, gweithio, chwarae a marw dros y canrifoedd.

–        Gweithdy Dathlwch sgiliau cenedlaethau o grefftwyr yn yr adeilad pwrpasol hwn. Dewch i gael eich ysbrydoli gan y campweithiau yn yr oriel a rhoi cynnig ar grefftau traddodiadol.

  • Llys LlywelynCamwch i un o lysoedd Oes y Tywysogion. Yn seiliedig ar dystiolaeth archaeolegol o Lys Rhosyr ar Ynys Môn, yma cewch flas ar fywyd brenhinol Cymru yn 13eg ganrif. Bydd hefyd yn lle i blant ysgol aros dros nos yn yr Amgueddfa.
  • Bryn Eryr Dyma fferm Oes yr haearn sy’n seiliedig ar safle archaeolegol o gyfnod goresgyniad y Rhufeiniaid. Cafodd yr anheddiad gwledig ei adeiladu gan wirfoddolwyr. Mae gan y ddau dŷ crwn waliau clai chwe-throedfedd o drwch a thoeon gwellt crwn.
  • Rydym wedi ailddehongli un o’n hadeiladau hanesyddol, Sefydliad y Gweithwyr Oakdale, i greu arddangosiad dementia-gyfeilgar a man i gefnogi pobl sy’n dysgu Cymraeg.
  • Yr Iarddyma fan chwarae newydd sbon a grëwyd gan yr artist Nils Norman. Cafodd Nils ei ysbrydoli gan adeiladau hanesyddol Sain Ffagan. Mae’n fan i chwarae’n greadigol, neidio a dringo.
  • Crug Oes yr Efydd Dyma arbrawf i ail-greu cofeb gladdu o Oes yr Efydd ar y cyd â disgyblion uwchradd lleol, er mwyn dysgu mwy am hunaniaeth a bywydau pobl yr oes.