Rhodri Glyn Thomas
Mae Aelod Cynulliad wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn bryd sefydlu “Awdurdod newydd” ar S4C.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, y cyn weinidog treftadaeth, fod angen “tynnu llinell o dan y gorffennol” drwy benodi aelodau newydd i Awdurdod y sianel.

“Mae gennym ni Brif Weithredwr newydd a Chadeirydd newydd,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

“Dw i’n meddwl fod yna ddadl gref o blaid penodi awdurdod newydd. Mae angen symud ymlaen a thynnu llinell o dan y gorffennol.”

Mae Golwg 360 ar ddeall mai Ian Jones, rheolwr gyfarwyddwr A&E Television Networks yn Efrog Newydd, sydd wedi cael ei benodi yn Brif Weithredwr newydd S4C.

Nid yw S4C wedi cadarnhau’r sibrydion gan ddweud fod ‘materion  cytundebol’ mewn perthynas â chyflogwr presennol yr unigolyn i’w datrys cyn y cyhoeddiad.

Os yw’n cael ei benodi fe fyddai Ian Jones yn olynu’r Prif Weithredwr dros dro Arwel Ellis Owen, gafodd ei benodi yn sgil ymadawiad Iona Jones dros flwyddyn yn ôl.

Cafodd Cadeirydd newydd ar Awdurdod S4C, Huw Jones, ei benodi ym mis Mehefin yn sgil ymddiswyddiad John Walter Jones ym mis Rhagfyr y llynedd.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas fod angen cwblhau’r broses drwy ddod a gwaed newydd i mewn i weddill yr Awdurdod, hefyd.

“Mae yna lawer iawn o frwydro mewnol wedi bod yn mynd ymlaen ac mae pobl wedi bod yn rhan o’r brwydrau personol o fewn S4C,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

“Mae gennym ni Gadeirydd newydd, a Phrif Weithredwr newydd. Mae cyfle nawr i gael Awdurdod newydd..

“Os yw aelodau presennol yr awdurdod yn teimlo fod ganddyn nhw gyfraniad i’w wneud mae croeso iddyn nhw ail-ymgeisio am eu lle.

“Ond rydw i’n credu fod angen gwaed newydd yno. Pobl sydd ddim wedi bod yn rhan o’r holl gwympo mas ‘ma sydd wedi bod yn mynd ymlaen ers bron i ddwy flynedd.”

‘Trist’

Dywedodd yr Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr fod ymdeimlad o dristwch yng Nghymru ynglŷn â S4C.

“Mae S4C yn sefydliad eithriadol o bwysig i Gymru,” meddai. ”Mae’n rhywbeth y dylai pobl Cymru deimlo eu bod nhw’n berchen arno.

“Ond, erbyn hyn mae pobl wedi colli pob ffydd yn y sefydliad am eu bod nhw’n gwneud llanast llwyr o bopeth.”

Dywedodd ei fod yn bwysig nad cyhoeddiad y Prif Weithredwr yw’r cawlach diweddaraf.

“Mae’r peth yn ffars lwyr, achos mae pawb yn gwybod mai Ian Jones yw e,” meddai.

“Mae pawb yn gwybod hynny ac fe ddylai S4C gyhoeddi eu bod nhw wedi cytuno i benodi Ian Jones a’u bod nhw mewn trafodaethau gyda chyflogwyr Ian Jones i’w ryddhau o.

“Mae’n ffars lwyr a dw i ddim yn deall sut mae S4C wedi cael eu hunain i mewn i’r sefyllfa yma.

“Fe ddylen nhw fod wedi ymdrin â’r penodiad  mewn modd llawer iawn mwy proffesiynol. Dw i ddim yn credu bod hyn wedi gwneud cymwynas ag unrhyw un o’r bobl wnaeth ymgeisio am y swydd. Mae pob un ohonyn nhw wedi eu trin yn wael.

“Os nad ydi S4C yn llwyddo i ddod i gytundeb gyda chyflogwyr Ian Jones fe fydd rhaid nhw ddechrau’r holl broses o’r newydd. Faint yn union mae’r broses yma i gyda wedi’i gostio?”

Y peth pwysig nawr yw bod y penodiad yn cael ei gyhoeddi cyn gynted a bo modd, meddai.

“Os mai Ian Jones yw e, rwy’n croesawu hynny yn fawr iawn. Ond mae’r rhaid iddo gael ei ddwylo’n rhydd i ddatblygu ei weledigaeth ef ar gyfer S4C. Y peth pwysig yw nad oes ymgais i sefydlu strategaethau tymor hir cyn bod Ian Jones wedi sefydlu ei hun yn y swydd,” meddai.

‘Pryder’

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol eisoes wedi datgan ei “bryder” wrth Golwg360 am yr oedi ynglŷn â chyhoeddi pwy sydd wedi cael swydd Prif Weithredwr S4C.

“Ta pwy sy’n cael y swydd, mi fydd hi’n anodd iawn dangos bod hyder gan yr Awdurdod i gyd yn yr unigolyn. Dylai’r Awdurdod fod wedi cefnogi Huw fel cadeirydd i arwain yr apwyntiad,” meddai Alun Cairns.

Dywedodd llefarydd S4C, “Nid yw’n bosib gwneud cyhoeddiad pellach ar hyn o bryd.”