Mae Aelod Cynulliad sy’n brwydro â chanser wedi cefnogi  ymgyrch a fydd yn ariannu ymchwil i’r salwch.

Derbyniodd Steffan Lewis ei ddiagnosis ym mis Rhagfyr y llynedd, ac ar hyn o bryd mae’r aelod Plaid Cymru ar dreial clinigol.

Yn sgil ei brofiadau yntau, mae’r Aelod Cynulliad wedi penderfynu cefnogi gwaith ymgyrch ‘Stand Up To Cancer’.

“Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw ymchwil gan fy mod i ar dreial cyffuriau clinigol fy hun,” meddai. “Oni bai am ymgyrchoedd fel Stand Up To Cancer, ni fyddai cleifion fel fi yn cael budd o’r triniaethau diweddaraf.

“Rwy’n ymateb yn dda i’r driniaeth ac wedi medru cael saib o’r sesiynau cemotherapi. Fy ngobaith yw y medraf barhau gyda’r treial a chael dathliadau da dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd gyda fy nheulu.”

Ymgyrchu

Ymgyrch ar y cyd rhwng Cancer Research UK a Channel 4 yw ‘Stand Up To Cancer’ a gafodd ei lansio yn 2012.

Hyd yma maen nhw wedi llwyddo codi £38 miliwn, ac wedi derbyn cefnogaeth gan lu o enwogion gan gynnwys y gyflwynwraig, Davina McCall, a’r comedïwr, Alan Carr.

Mae’r cyhoedd wedi’u hannog i wneud cais am ‘becyn codi arian’ fel eu bod yn medru cyfrannu at yr ymgyrchu.

FIDEO o Steffan Lewis yn mynegi cefnogaeth i’r achos…