Mae arweinydd newydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi enwi ei lefarwyr ar gyfer y gwahanol feysydd o fewn Llywodraeth Cymru.
Dyma’r tro cyntaf i Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a gafodd ei ethol yn arweinydd fis diwethaf, ddewis ei lefarwyr ei hun.
Mae’r ddau ymgeisydd a heriodd Adam Price am yr arweinyddiaeth wedi sicrhau lle blaenllaw ymhlith y llefarwyr, gyda Leanne Wood yn llefarydd ar Dai a Chyfiawnder Cymdeithasol a Rhun ap Iorwerth yn llefarydd ar Economi a Chyllid.
Dywed Adam Price fod ei dîm newydd yn un “unedig a chryf sydd â rhaglen radical a thrawsnewidiol ar gyfer llywodraethu”.
“Egni o’r newydd”
“Drwy ddefnyddio talentau a phrofiadau cyfoethog ein holl Aelodau Cynulliad etholedig, rydym yn barod i ddangos yr hyn y gellir ei gyflawni gan blaid sydd yn ymroddedig ac yn barod i lywodraethu gyda dychymyg radical a’r ewyllys gwleidyddol i gyflawni’r hyn sydd angen ei wneud,” meddai Adam Price.
“Mae’r haul yn machlud ar y blaid Lafur yng Nghymru. Nawr yw’r amser am egni o’r newydd, syniadau o’r newydd, cyfeiriad o’r newydd a deinameg o’r newydd.
“Mae Plaid Cymru yn sefyll yn gadarn yn barod i arwain Cymru newydd. Mae’r newid hwnnw yn dechrau nawr.”
Y llefarwyr
- Rhun ap Iorwerth – Economi a Chyllid;
- Leanne Wood – Tai a Chyfiawnder Cymdeithasol;
- Siân Gwenllian – Addysg a’r Iaith Gymraeg;
- Llŷr Gruffydd – Amgylchedd a Materion Gwledig;
- Helen Mary Jones – Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
- Steffan Lewis – Materion Allanol;
- Bethan Sayed – Addysg Ôl-16, Sgiliau ac Arloesedd;
- Dr Dai Lloyd – Llywodraeth Leol, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus.