Yn dilyn cyfarfod gyda Phrif Weinidog Cymru ddoe (dydd Iau, 18 Hydref), mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi mynegi siom na wnaeth  Carwyn Jones addo cymorth gan ei Lywodraeth yn sgil y difrod a gafodd ei achosi gan y llifogydd mawr y penwythnos diwethaf.

Ar ôl cyfarfod gyda’r Prif Weinidog yn ystod ei ymweliad â’r sir ddoe, dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor, ei fod wedi disgwyl y byddai Carwyn Jones wedi rhoi “rhyw arwydd cadarnhaol” bod cymorth ariannol ar gael.

Bil o £3m

“Fel cyngor, fe wnaethom sefydlu cronfa o £300,000 ar unwaith i helpu preswylwyr a busnesau a ddioddefodd oherwydd y llifogydd,” meddai.

“Gan fod y Prif Weinidog wedi gweld y sefyllfa dorcalonnus a achoswyd gan lifogydd mewn cartrefi pobl drosto’i hun, roeddwn yn disgwyl mwy o gydymdeimlad. Mae’r cyngor hefyd wedi cael ei daro, gan wynebu bil o £3m o leiaf i atgyweirio priffyrdd a ddifrodwyd gan y llifogydd.”

Ychwanegodd y bydd y Cyngor yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru am gymorth ariannol.

“Buddsoddi dros £350 miliwn”

Roedd y Prif Weinidog  yn Llechryd, Ceredigion a Chaerfyrddin ddoe i gwrdd â phobl a busnesau lleol oed wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd ac i weld sut mae’r gwaith glanhau’n mynd yn ei flaen.

Gwnaeth y Prif Weinidog  ddiolch i’r gwasanaethau brys, yr awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru am eu gwaith.

Dywedodd Carwyn Jones:  “Mae fy meddyliau gyda phawb gafodd eu taro gan lifogydd y penwythnos, yn enwedig â theulu Corey Sharpling a gollodd ei fywyd oherwydd tirlithriad.

“Daeth Storm Callum â llawer iawn o law i Gymru penwythnos diwethaf, gan roi pwysau mawr ar ein hafonydd, gyda rhai’n cofnodi’r llif uchaf erioed. Er inni weld llifogydd mewn sawl ardal, mae’n dda clywed i lawer o’n hamddiffynfeydd weithio’n effeithiol a lleihau’r effaith.

“Rwy’n deall nad yw hyn yn gysur i’r rheini ddioddefodd.  Dyna pam yr oeddwn i mor awyddus ymweld â rhai o’r cymunedau y gwnaeth y llifogydd eu taro a dweud wrthyn nhw ein bod yn ceisio deall effeithiau llawn y storm.”

Ychwanegodd: “Mae’n amhosib rhwystro llifogydd bob tro, felly mae gwella’n gallu i’w gwrthsefyll a dysgu gwersi’n hanfodol. Byddwn yn buddsoddi dros £350 miliwn mewn mesurau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol dros oes y llywodraeth hon. Yn ogystal â gwario ar adeiladu a chynnal a chadw amddiffynfeydd, byddwn yn gwario hefyd ar atal llifogydd a helpu cymunedau i’w gwrthsefyll.”