Mae cwpwl o’r Barri wedi cael eu dedfrydu i gyfanswm o 36 mlynedd yn y carchar am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Cafodd Peter Griffiths, 65, a’i wraig Avril, 61, eu canfod yn euog y mis diwethaf yn dilyn achos yn Llys y Goron Caerdydd.

Mae Peter Griffiths wedi derbyn 21 mlynedd o garchar ar ôl cael ei ganfod yn euog o wyth achos o dreisio, tri achos o ymosod yn rhywiol, a dau achos o greu delwedd anweddus o blentyn.

Derbyniodd Avril Griffiths 15 mlynedd o garchar, a hynny am bum achos o dreisio, dau achos o greu delwedd anweddus o blentyn, a dau achos o ymosod yn rhywiol.

Mae’r cyhuddiadau yn dyddio’n ôl i’r 1970au ar 1990au.

Clywodd y llys fod gweithredoedd y ddau wedi “dinistrio” bywydau tri o’u dioddefwyr.