Dylai Cyngor Sir Gaerfyrddin garthu afon Tywi os ydyn nhw am osgoi rhagor o lifogydd yn nhref hynaf Cymru.

Dyna gyngor Jason Williams, pennaeth ar weithfeydd sment yn y sir, ac un fu’n teithio yn ôl a blaen mewn caiac yn ystod y tywydd garw dros y penwythnos.

Yn ei ran ef o’r sir, mae’n cydnabod nad yw’r cyngor yn medru gwneud rhyw lawer i leddfu’r sefyllfa, ond mae’n credu bod yna ateb i’r broblem mewn mannau eraill – gan gynnwys tref Caerfyrddin ei hun.

“Gallan nhw drejio’r afon mas,” meddai wrth golwg360. “So nhw wedi gwneud hynna ers 1987.

“Dyw’r afon yn awr methu ymdopi â llanw uchel. Mae’n gorlifo dros y glannau. A dyw afon ddim fod gorlifo pob tro mae’r llanw yn dod mewn – mae fod aros yn is.

“A phan mae llifogydd, mae’n mynd dros y glannau. I fi, yr ateb yw drejio’r afon mas fel wnaethon nhw yn yr 1980au.”

Kayak

Gweithfeydd Sement Abergwili yw enw ei fusnes, ac mae’r safle – yn ogystal â’i gartref – yn sefyll ar lannau afon Tywi gyferbyn â phentref Felin-wen ar gyrion Caerfyrddin.

Pan gododd Jason Williams fore dydd Sadwrn (Hydref 13) roedd yna bedair troedfedd o ddŵr ar yr heol ger ei dŷ, ac ar ei waethaf roedd yna 17 modfedd o ddŵr yn y gweithfeydd.

“Doedd dim difrod,” meddai, ac roedd gweithwyr yn ôl ar y safle ddydd Llun (Hydref 15), ond mae’n cydnabod bod gweld y dŵr yn “sioc”.  

Dros y penwythnos, bu’n rhaid iddo symud ei gâr o’r dwr, a mynd a dod ato o’r ty mewn caiac.

“Oedd e’n good!” meddai. “Gyda’r lifejacket arno, ro’n i’n iawn! Bach o sbri, nagefe!”

Mae’n dweud bod ganddo bedwar caiac i gyd, a’i fod yn defnyddio pob un ohonyn nhw am un rheswm yn unig – i rwyfo trwy lifogydd pan mae afon Tywi’n gorlifo.

Llifogydd

Dyma oedd y llifogydd gwaethaf i daro Sir Gaerfyrddin ers 30 mlynedd, a bellach mae’r Cyngor wedi galw ar Lywodraeth Cymru am gymorth ariannol.

Bydd angen gwario miliynau i fynd i’r afael â difrod y llifogydd, yn ôl Cyngor Sir Gâr, ac yn ôl asesiad cychwynnol, bydd angen £3m i atgyweirio’r priffyrdd yn unig.